Stori Fi a Milddail...
Sef. 2020
Helo!! Heledd ydw i, gwerthwr blodau angerddol gyda chalon yn llawn cariad at drefnu blodau, gwneud i bobl wenu a chreu achlysuron cofiadwy. Dechreuodd fy nhaith i’r byd blodau yn ystod fy arddegau pan ges i fy swydd gyntaf, ar ddyddiau Sadwrn mewn siop blodau lleol – rôl a daniodd fy niddordeb gydol oes gyda blodau.
​
Cyn bod yn fam, penderfynais droi fy ngyrfa tuag at y diwydiant creadigol blodau a chymerais swydd fel fflorist mewn siop blodau yng Nghaerdydd. Yma y gwnes i ddatblygu'm sgiliau, dysgu ar y swydd, hunan-ddysgu, cwblhau cyrsiau ar-lein, a threulio oriau di-ri yn chwarae gyda flodau yn fy ngweithdy (a oedd yn garej!). Ychydig a wyddwn y byddai'r antur flodeuog hon yn cymryd tro annisgwyl.
​
YYm mis Ebrill 2020, roeddwn ar fin dechrau swydd newydd pan darodd COVID, a ddechreuodd y cyfnod clo, gan fy ngadael yn ddi-waith (methu â bod ar ffyrlo) ac felly dechreuais ystyried fy symudiad nesaf. Yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn, cefais yr ysbrydoliaeth wnaeth fy arwain i ddechrau fy musnes blodau, Milddail. (Roeddwn i wedi ei gael yng nghefn fy meddwl erioed, ond heb gymryd naid ffydd!) Yng nghanol yr ansicrwydd a'r unigrwydd a ddaeth gyda'r cyfnod clo 2020, dechreuais i'r busnes bach o ddanfon tuswau o flodau i gwsmeriaid lleol. Gwasanaeth sylweddolais, dath a llawenydd a chysylltiad i deuluoedd a ffrindiau oedd heb weld ei gilydd am amser maith. Rhoddodd gymaint o falchder a llawenydd imi allu darparu cyswllt rhwng pobl ar adeg mor anodd a thrist i bawb. Tystiolaeth bod tusw o flodau ffres yn creu effaith mawr i'r bobl sy'n ei derbyn!
​
Symudwn ymlaen 3.5 mlynedd ac ychwanegwch ddau lasbren bach hardd i'r gymysgedd - fy mhlant, mae fy musnes blodau wedi blodeuo (esgusodwch y chwarae ar eiriau!) ac wedi esblygu. Rwy'n falch o fod yn trefnydd blodau i ddigwyddiadau, yn arbenigo mewn priodasau, angladdau a digwyddiadau tymhorol. Mae'r daith hon wedi bod yn drawsnewidiol, gan gwrdd â chymaint o bobl newydd (a ffrindiau!) a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers i ddechrau. Mae gen i gymaint mwy yr hoffwn ei gyflawni, felly dim ond dechrau'r daith yw hyn.
​
Ymunwch â mi i ddathlu harddwch blodau a'r hud y maent yn dod ag ef i achlysuron mwyaf arbennig bywyd. Boed yn briodas, yn ddigwyddiad tymhorol, neu'n rhodd o dusw i berthynas, rydw i'n barod i drwytho bywyd blodeuol i'ch achlysuron gyda harddwch trwy fy nghelfyddyd flodeuog. Gadewch i ni greu atgofion parhaol gyda'n gilydd! Dewch i ni ddathlu Bywyd!
Cariad,
Heledd.xx